Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Mawrth 2014 i’w hateb ar 1 Ebrill 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad Llywodraeth Cymru o'r Polisi Amaeth Cyffredin diwygiedig yng Nghymru? OAQ(4)1600(FM)W TYNNWYD YNOL

 

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1589(FM)

 

3. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rôl menywod yn economi Cymru?OAQ(4)1598(FM)

 

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru i bobl â dementia yng Nghymru?OAQ(4)1602(FM)

 

5. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru?  OAQ(4)1597(FM)

 

6. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad uned iaith Gymraeg y Llywodraeth? OAQ(4)1596(FM)W

 

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o wasanaethau newyddenedigol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)1591(FM)W

 

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effaith costau byw ar deuluoedd yng Nghymru?OAQ(4)1590(FM)

 

9. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adleoli Trident i Gymru?OAQ(4)1606(FM)

 

10. Julie James (Gorllewin Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trefniadau trawsffiniol ar gyfer gwasanaethau iechyd?OAQ(4)1601(FM)

 

11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth yw’r amserlen ar gyfer datblygu map newydd yng nghyswllt darparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llywodraeth leol?   OAQ(4)1605(FM)

12. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau Estyn o ran presenoldeb yn yr ysgol yng Nghymru?OAQ(4)1604(FM)

 

13. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru?OAQ(4)1607(FM)W

 

14. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru hyd 2016?OAQ(4)1592(FM)

 

15. Sandy Mewies (Delyn):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o'r ffigurau digartrefedd diweddaraf yng Nghymru?OAQ(4)1599(FM)